Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 7:1-8 beibl.net 2015 (BNET)

1. A dyma Eliseus yn ateb, “Gwranda ar neges yr ARGLWYDD. ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Yr adeg yma fory, yn y farchnad wrth giât Samaria, bydd un darn arian yn ddigon i brynu sachaid o flawd mân, neu ddwy lond sach o haidd!’”

2. Dyma swyddog agosa'r brenin, ei brif gynorthwywr, yn ateb proffwyd Duw. “Hyd yn oed petai'r ARGLWYDD yn agor llifddorau'r awyr iddi lawio ar y ddaear, allai hynny byth digwydd!”Ond dyma Eliseus ateb, “Cei weld y peth â dy lygaid dy hun, ond gei di ddim bwyta dim ohono.”

3. Tu allan i giât y ddinas roedd pedwar dyn oedd yn dioddef o glefyd heintus ar y croen. Dyma nhw'n dweud wrth ei gilydd, “Pam ydyn ni'n aros yn y fan yma i farw?

4. Os awn ni i mewn i'r ddinas, byddwn ni'n marw, achos does yna ddim bwyd yno. Os arhoswn ni yma, dŷn ni'n mynd i farw hefyd. Felly dewch i ni fynd drosodd at fyddin Syria. Falle y gwnân nhw'n lladd ni, ond mae yna bosibilrwydd yn gwnân nhw adael i ni fyw.”

5. Felly'r noson honno, dyma nhw'n mynd i wersyll byddin Syria. Ond wrth iddyn nhw gyrraedd cyrion y gwersyll dyma nhw'n sylweddoli fod yna neb yno.

6. Roedd yr ARGLWYDD wedi gwneud i fyddin Syria feddwl eu bod yn clywed sŵn byddin enfawr yn dod gyda ceffylau a cherbydau. Roedden nhw'n meddwl fod brenin Israel wedi talu i frenhinoedd yr Hethiaid a'r Aifft i ymosod arnyn nhw.

7. Felly roedden nhw wedi dianc gyda'r nos. Roedden nhw wedi gadael eu pebyll, a'u ceffylau a'u hasynnod, a'r gwersyll fel roedd e, a ffoi am eu bywydau.

8. Pan ddaeth y dynion oedd yn dioddef o'r gwahanglwyf i gyrion y gwersyll dyma nhw'n mynd i mewn i un o'r pebyll a buon nhw'n bwyta ac yfed ynddi. Yna dyma nhw'n cymryd arian, aur a dillad ohoni, a mynd i guddio'r cwbl. Wedyn dyma nhw'n mynd i babell arall, a dwyn o honno hefyd.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 7