Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 6:18-31 beibl.net 2015 (BNET)

18. Wrth i fyddin Syria ddod yn nes, dyma Eliseus yn gweddïo, “ARGLWYDD, wnei di daro'r bobl yma'n ddall.” A dyma nhw'n cael eu dallu, fel roedd Eliseus wedi gofyn.

19. Yna dyma Eliseus yn mynd atyn nhw a dweud, “Dim y ffordd yma, na'r dre yma dych chi eisiau. Dewch ar fy ôl i. Gwna i fynd â chi at y dyn dych chi'n chwilio amdano.” A dyma fe'n eu harwain nhw i Samaria.

20. Ar ôl iddyn nhw gyrraedd, dyma Eliseus yn gweddïo eto, “ARGLWYDD, agor eu llygaid nhw iddyn nhw allu gweld.” Dyma'r ARGLWYDD yn agor eu llygaid, ac roedden nhw'n gweld eu bod yng nghanol tref Samaria.

21. Pan welodd brenin Israel nhw dyma fe'n gofyn i Eliseus, “Fy nhad, ddylwn i eu lladd nhw'n syth?”

22. “Na, paid lladd nhw,” meddai Eliseus. “Fyddet ti'n lladd pobl wedi eu dal mewn brwydr? Na. Rho rywbeth i'w fwyta a'i yfed iddyn nhw, ac wedyn gadael iddyn nhw fynd yn ôl at eu meistr.”

23. Felly dyma'r brenin yn trefnu gwledd fawr iddyn nhw, a dyma nhw'n bwyta ac yn yfed. Wedyn dyma nhw'n mynd yn ôl at eu meistr.O hynny ymlaen dyma fyddin Syria yn stopio ymosod ar wlad Israel.

24. Flynyddoedd wedyn dyma Ben-hadad, brenin Syria, yn casglu ei fyddin at ei gilydd a mynd i godi gwarchae ar Samaria.

25. O ganlyniad doedd dim bwyd yn Samaria. Roedd y sefyllfa mor ddrwg nes bod pen asyn yn costio wyth deg o ddarnau arian, a powlen fach o dail colomennod yn costio pum darn arian.

26. Pan oedd brenin Israel yn cerdded ar waliau'r dref, dyma rhyw wraig yn gweiddi arno, “O frenin, syr, helpa fi!”

27. Ond dyma fe'n ateb, “Na, rhaid i'r ARGLWYDD dy helpu di. Sut alla i dy helpu di? Mae'r llawr dyrnu a'r cafn gwin yn wag!”

28. Wedyn dyma'r brenin yn gofyn iddi “Beth sy'n bod?”A dyma hi'n ateb, “Roedd y wraig yma wedi dweud wrtho i, ‘Rho dy fab di i ni ei fwyta heddiw, a gwnawn ni fwyta fy mab i yfory.’

29. Felly dyma ni'n berwi fy mab i, a'i fwyta. Yna'r diwrnod wedyn dyma fi'n dweud wrthi, ‘Tyrd â dy fab di i ni gael ei fwyta fe nawr.’ Ond roedd hi wedi cuddio ei mab.”

30. Pan glywodd y brenin hyn dyma fe'n rhwygo ei ddillad. Gan ei fod yn cerdded ar y waliau, roedd pawb yn gallu gweld ei fod e'n gwisgo sachliain oddi tanodd.

31. A dyma'r brenin yn dweud, “Boed i Dduw ddial arna i os bydd pen Eliseus yn dal ar ei ysgwyddau erbyn diwedd y dydd!”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 6