Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 6:11-21 beibl.net 2015 (BNET)

11. Roedd brenin Syria wedi cynhyrfu o achos hyn. A dyma fe'n galw ei swyddogion at ei gilydd, a dweud, “Dwedwch wrtho i, pa un ohonoch chi sy'n helpu brenin Israel?”

12. Dyma un ohonyn nhw'n ateb, “Fy mrenin. Does neb ohonon ni'n gwneud hynny, syr. Eliseus y proffwyd yn Israel ydy e! Mae hyd yn oed yn rhannu gyda brenin Israel beth ti'n ddweud yn dy ystafell wely!”

13. Felly dyma'r brenin yn dweud, “Ffeindiwch e i mi, er mwyn i mi anfon dynion yno i'w ddal e!”Dyma nhw'n darganfod fod Eliseus yn Dothan, a mynd i ddweud wrth y brenin.

14. Felly dyma'r brenin yn anfon byddin gref yno, gyda cheffylau a cherbydau. A dyma nhw'n cyrraedd yno yn y nos ac yn amgylchynu'r dre.

15. Yn gynnar y bore wedyn dyma was Eliseus yn codi a mynd allan. A dyna lle roedd byddin Syria gyda cheffylau a cherbydau wedi amgylchynu'r dre. A dyma'r bachgen yn dweud wrth Eliseus, “O na! Feistr, be wnawn ni?”

16. Ond dyma Eliseus yn ateb, “Paid dychryn. Mae yna fwy ar ein hochr ni nac sydd gyda nhw.”

17. Yna dyma Eliseus yn gweddïo, “ARGLWYDD, agor ei lygaid iddo weld.” A dyma'r ARGLWYDD yn agor llygaid y bachgen, ac roedd e'n gweld fod y bryn yn llawn ceffylau a cherbydau fel fflamau tân o gwmpas Eliseus.

18. Wrth i fyddin Syria ddod yn nes, dyma Eliseus yn gweddïo, “ARGLWYDD, wnei di daro'r bobl yma'n ddall.” A dyma nhw'n cael eu dallu, fel roedd Eliseus wedi gofyn.

19. Yna dyma Eliseus yn mynd atyn nhw a dweud, “Dim y ffordd yma, na'r dre yma dych chi eisiau. Dewch ar fy ôl i. Gwna i fynd â chi at y dyn dych chi'n chwilio amdano.” A dyma fe'n eu harwain nhw i Samaria.

20. Ar ôl iddyn nhw gyrraedd, dyma Eliseus yn gweddïo eto, “ARGLWYDD, agor eu llygaid nhw iddyn nhw allu gweld.” Dyma'r ARGLWYDD yn agor eu llygaid, ac roedden nhw'n gweld eu bod yng nghanol tref Samaria.

21. Pan welodd brenin Israel nhw dyma fe'n gofyn i Eliseus, “Fy nhad, ddylwn i eu lladd nhw'n syth?”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 6