Wedi iddyn nhw gyrraedd y bryn, dyma Gehasi'n cymryd yr arian a'r dillad ganddyn nhw a'i cuddio nhw yn y tŷ. Yna dyma fe'n anfon y dynion i ffwrdd.