Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 5:16-27 beibl.net 2015 (BNET)

16. Ond dyma Eliseus yn ateb, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD (yr un dw i'n ei wasanaethu) yn fyw, wna i gymryd dim gen ti.” Ac er i Namaan bwyso arno roedd yn dal i wrthod.

17. Yn y diwedd dyma Naaman yn gofyn, “Os gwnei di ddim derbyn rhodd, yna plîs wnei di roi llwyth o bridd i mi – digon i ddau ful ei gario. Achos o hyn ymlaen fydda i ddim yn cyflwyno offrwm ac aberth i unrhyw dduw arall, dim ond i'r ARGLWYDD.

18. Ond mae yna un peth bach dw i'n gobeithio y bydd yr ARGLWYDD yn ei faddau i mi: Pan fydd fy meistr, y brenin, yn mynd i deml Rimmon i addoli, bydd yn pwyso ar fy mraich i. Bydd rhaid i mi ymgrymu o flaen Rimmon pan fydd e'n gwneud hynny. Gobeithio bydd yr ARGLWYDD yn maddau i mi am hyn.”

19. A dyma Eliseus yn dweud, “Dos adre'n dawel dy feddwl.”Doedd Naaman ddim wedi mynd yn bell,

20. pan feddyliodd Gehasi, gwas y proffwyd Eliseus: “Mae fy meistr wedi gwneud pethau'n rhy hawdd i Naaman y Syriad drwy wrthod derbyn beth roedd yn ei gynnig iddo. Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, dw i'n mynd ar ei ôl i gael rhywbeth ganddo.”

21. Felly dyma fe'n brysio ar ôl Naaman.Pan welodd Naaman rywun yn rhedeg ar ei ôl, dyma fe'n dod i lawr o'i gerbyd i'w gyfarfod, a gofyn, “Ydy popeth y iawn?”

22. A dyma Gehasi yn dweud, “Ydy, mae popeth yn iawn. Mae fy meistr wedi f'anfon i ddweud fod dau broffwyd ifanc newydd gyrraedd o fryniau Effraim. Plîs wnei di roi tri deg cilogram o arian a dau set o ddillad iddyn nhw?”

23. “Ar bob cyfri,” meddai Naaman, “gad i mi roi dwywaith hynny i ti.” Roedd yn mynnu, a dyma fe'n rhoi chwe deg cilogram o arian mewn dau fag, gyda dau set o ddillad. Yna dyma fe'n eu rhoi nhw i ddau was i'w cario i Gehasi.

24. Wedi iddyn nhw gyrraedd y bryn, dyma Gehasi'n cymryd yr arian a'r dillad ganddyn nhw a'i cuddio nhw yn y tŷ. Yna dyma fe'n anfon y dynion i ffwrdd.

25. Pan aeth Gehasi at ei feistr, dyma Eliseus yn gofyn iddo, “Wyt ti wedi bod i rywle Gehasi?”A dyma fe'n ateb, “Na, dw i ddim wedi bod i unman yn arbennig.”

26. A dyma Eliseus yn dweud wrtho, “Roeddwn i wedi mynd gyda ti yn yr ysbryd pan ddaeth y dyn i lawr o'i gerbyd i dy gyfarfod di. Wnest ti ddim derbyn arian i brynu dillad a gerddi olewydd a gwinllannoedd a defaid a gwartheg a gweision a morynion?

27. Bydd yr afiechyd roedd Naaman yn dioddef ohono arnat ti a dy deulu am byth!”Aeth Gehasi i ffwrdd oddi wrtho, ac roedd y clefyd ar ei groen yn wyn fel yr eira.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 5