Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 5:14-24 beibl.net 2015 (BNET)

14. Felly dyma fe'n mynd ac ymdrochi saith gwaith yn yr Afon Iorddonen fel roedd y proffwyd wedi dweud. A dyma'i groen yn dod yn lân fel croen plentyn bach.

15. Yna dyma fe, a'i filwyr i gyd, yn mynd yn ôl at y proffwyd. Dyma Naaman yn sefyll o'i flaen a dweud wrtho “Dw i'n gwybod nawr fod yna ddim Duw go iawn yn unman arall ond yn Israel! Plîs, wnei di dderbyn anrheg gen i, dy was?”

16. Ond dyma Eliseus yn ateb, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD (yr un dw i'n ei wasanaethu) yn fyw, wna i gymryd dim gen ti.” Ac er i Namaan bwyso arno roedd yn dal i wrthod.

17. Yn y diwedd dyma Naaman yn gofyn, “Os gwnei di ddim derbyn rhodd, yna plîs wnei di roi llwyth o bridd i mi – digon i ddau ful ei gario. Achos o hyn ymlaen fydda i ddim yn cyflwyno offrwm ac aberth i unrhyw dduw arall, dim ond i'r ARGLWYDD.

18. Ond mae yna un peth bach dw i'n gobeithio y bydd yr ARGLWYDD yn ei faddau i mi: Pan fydd fy meistr, y brenin, yn mynd i deml Rimmon i addoli, bydd yn pwyso ar fy mraich i. Bydd rhaid i mi ymgrymu o flaen Rimmon pan fydd e'n gwneud hynny. Gobeithio bydd yr ARGLWYDD yn maddau i mi am hyn.”

19. A dyma Eliseus yn dweud, “Dos adre'n dawel dy feddwl.”Doedd Naaman ddim wedi mynd yn bell,

20. pan feddyliodd Gehasi, gwas y proffwyd Eliseus: “Mae fy meistr wedi gwneud pethau'n rhy hawdd i Naaman y Syriad drwy wrthod derbyn beth roedd yn ei gynnig iddo. Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, dw i'n mynd ar ei ôl i gael rhywbeth ganddo.”

21. Felly dyma fe'n brysio ar ôl Naaman.Pan welodd Naaman rywun yn rhedeg ar ei ôl, dyma fe'n dod i lawr o'i gerbyd i'w gyfarfod, a gofyn, “Ydy popeth y iawn?”

22. A dyma Gehasi yn dweud, “Ydy, mae popeth yn iawn. Mae fy meistr wedi f'anfon i ddweud fod dau broffwyd ifanc newydd gyrraedd o fryniau Effraim. Plîs wnei di roi tri deg cilogram o arian a dau set o ddillad iddyn nhw?”

23. “Ar bob cyfri,” meddai Naaman, “gad i mi roi dwywaith hynny i ti.” Roedd yn mynnu, a dyma fe'n rhoi chwe deg cilogram o arian mewn dau fag, gyda dau set o ddillad. Yna dyma fe'n eu rhoi nhw i ddau was i'w cario i Gehasi.

24. Wedi iddyn nhw gyrraedd y bryn, dyma Gehasi'n cymryd yr arian a'r dillad ganddyn nhw a'i cuddio nhw yn y tŷ. Yna dyma fe'n anfon y dynion i ffwrdd.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 5