Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 25:1-9 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn dod â'i fyddin gyfan i ymosod ar Jerwsalem. Digwyddodd hyn ar y degfed diwrnod o'r degfed mis o nawfed flwyddyn Sedeceia fel brenin. Dyma nhw'n gwersylla o gwmpas y ddinas, ac yn codi rampiau i warchae arni.

2. Buon nhw'n gwarchae ar y ddinas am flwyddyn a hanner (blwyddyn un deg un Sedeceia fel brenin.)

3. Erbyn y nawfed diwrnod o'r pedwerydd mis y flwyddyn honno roedd y newyn yn y ddinas mor ddrwg doedd gan y werin bobl ddim byd o gwbl i'w fwyta.

4. Dyma'r gelyn yn llwyddo i fylchu wal y ddinas. A dyma filwyr Jwda i gyd yn ceisio dianc, a mynd allan o'r ddinas ganol nos drwy'r giât sydd rhwng y ddwy wal wrth ymyl gardd y brenin. Dyma nhw'n dianc i gyfeiriad Dyffryn Iorddonen (Roedd y Babiloniaid yn amgylchynu'r ddinas.)

5. Ond aeth byddin Babilon ar ôl y brenin Sedeceia. Cafodd ei ddal ar wastatir Jericho, a dyma ei fyddin gyfan yn cael ei gyrru ar chwâl.

6. Dyma nhw'n mynd â'r brenin Sedeceia i sefyll ei brawf o flaen brenin Babilon yn Ribla.

7. Cafodd Sedeceia ei orfodi i edrych ar ei feibion yn cael eu lladd. Wedyn dyma nhw'n tynnu llygaid Sedeceia allan a'i roi mewn cadwyni pres cyn mynd ag e'n gaeth i Babilon.

8. Rhyw fis yn ddiweddarach, dyma Nebwsaradan, capten y gwarchodlu brenhinol, un o swyddogion pwysica brenin Babilon, yn cyrraedd Jerwsalem (Roedd hyn ar y degfed diwrnod o'r pumed mis, a Nebwchadnesar wedi bod yn frenin Babilon ers un deg naw o flynyddoedd.)

9. Dyma fe'n rhoi teml yr ARGLWYDD, palas y brenin, a'r tai yn Jerwsalem i gyd ar dân. Llosgodd yr adeiladau pwysig i gyd.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 25