Aeth Eliseus o Jericho yn ôl i Bethel. Pan oedd e ar ei ffordd dyma griw o fechgyn ifanc yn dod allan o'r dre a dechrau gwneud hwyl am ei ben. Roedden nhw'n gweiddi, “Dos i ffwrdd, y moelyn! Dos i ffwrdd, y moelyn!”