Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 2:18-25 beibl.net 2015 (BNET)

18. Arhosodd Eliseus yn Jericho, nes iddyn nhw ddod yn ôl ato. A dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Wel? Wnes i ddim dweud wrthoch chi am beidio mynd?”

19. Dyma bobl y dre yn dweud wrth Eliseus, “Mae'r dre yma mewn safle da, fel ti'n gweld, syr. Ond mae'r dŵr yn wael a dydy'r cnydau ddim yn tyfu.”

20. “Dewch â llestr newydd i mi, a rhoi halen ynddo,” meddai Eliseus. Felly dyma nhw'n gwneud hynny.

21. Yna dyma Eliseus yn mynd at lygad y ffynnon a thaflu'r halen i mewn iddi. A dyma fe'n dweud, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Dw i'n puro'r dŵr yma. Fydd e ddim yn achosi marwolaeth nag anffrwythlondeb byth eto.’”

22. Ac mae'r dŵr yn bur hyd heddiw, yn union fel roedd Eliseus wedi dweud.

23. Aeth Eliseus o Jericho yn ôl i Bethel. Pan oedd e ar ei ffordd dyma griw o fechgyn ifanc yn dod allan o'r dre a dechrau gwneud hwyl am ei ben. Roedden nhw'n gweiddi, “Dos i ffwrdd, y moelyn! Dos i ffwrdd, y moelyn!”

24. Dyma fe'n troi rownd a rhythu arnyn nhw, a galw ar yr ARGLWYDD i'w melltithio nhw. A dyma ddwy arth yn dod allan o'r goedwig a llarpio pedwar deg dau o'r bechgyn.

25. Yna dyma Eliseus yn mynd ymlaen i Fynydd Carmel, ac wedyn yn ôl i Samaria.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 2