Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 19:9-21 beibl.net 2015 (BNET)

9. Roedd wedi clywed fod y brenin Tirhaca (oedd o dras Affricanaidd) ar ei ffordd i ymosod arno. Felly, dyma fe'n anfon negeswyr at Heseceia eto:

10. “Dwedwch wrth Heseceia, brenin Jwda: ‘Peidiwch gadael i'r Duw dych chi'n ei drystio eich twyllo chi i feddwl na fydd Jerwsalem yn syrthio i ddwylo brenin Asyria.

11. Dych chi'n gwybod yn iawn fod brenhinoedd Asyria wedi dinistrio'r gwledydd eraill i gyd. Ydych chi'n mynd i ddianc?

12. Gafodd y gwledydd ddinistriodd fy rhagflaenwyr eu hachub gan eu duwiau? – beth am Gosan, Haran, Retseff, a pobl Eden oedd yn Telassar?

13. Ble mae brenin Chamath? Neu frenin Arpad? Neu frenhinoedd Lahir, Seffarfaîm, Hena, ac Ifa?’”

14. Ar ôl i Heseceia gymryd y llythyr gan y negeswyr, a'i ddarllen, aeth i'r deml a'i osod allan o flaen yr ARGLWYDD.

15. Yna dyma Heseceia'n gweddïo:“O ARGLWYDD, Duw Israel, sy'n eistedd ar dy orsedd uwchben y ceriwbiaid. Ti sydd Dduw, yr unig un, dros deyrnasoedd y byd i gyd. Ti wnaeth greu y bydysawd a'r ddaear.

16. O ARGLWYDD, plîs gwrando! Agor dy lygaid ARGLWYDD! Edrych! Gwranda ar beth mae Senacherib yn ei ddweud. Mae e wedi anfon neges sy'n enllibio'r Duw byw!

17. ARGLWYDD, mae'n wir fod brenhinoedd Asyria wedi dinistrio'r bobloedd i gyd, a'u tiroedd,

18. ac wedi llosgi eu duwiau nhw. Ond doedden nhw ddim yn dduwiau go iawn, dim ond coed neu gerrig wedi eu cerfio gan bobl, i'w haddoli.

19. Felly nawr, O ARGLWYDD ein Duw, plîs achub ni o'i afael, er mwyn i deyrnasoedd y byd i gyd wybod mai ti ydy'r ARGLWYDD, yr unig Dduw go iawn.”

20. Dyma Eseia fab Amos yn anfon y neges yma at Heseceia:“Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: Dw i wedi clywed dy weddi di am Senacherib, brenin Asyria,

21. a dyma dw i, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud yn ei erbyn:Mae'r forwyn hardd, Seion, yn dy ddirmygu di!Mae hi'n gwneud hwyl ar dy ben di!Mae Jerwsalem hardd yn ysgwyd ei phentu ôl i dy gefn di.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 19