Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 16:1-9 beibl.net 2015 (BNET)

1. Pan oedd Pecach fab Remaleia wedi bod yn frenin ar Israel am un deg saith o flynyddoedd daeth Ahas fab Jotham yn frenin ar Jwda.

2. Roedd Ahas yn ddau ddeg mlwydd oed pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am un deg chwech o flynyddoedd. Ond wnaeth e ddim plesio'r ARGLWYDD ei Dduw fel roedd y Brenin Dafydd wedi gwneud.

3. Roedd yn ymddwyn yr un fath â brenhinoedd Israel. Ac yn waeth fyth, dyma fe'n llosgi ei fab yn aberth – arferiad cwbl ffiaidd y bobloedd roedd yr ARGLWYDD wedi eu gyrru allan o'r wlad o flaen Israel.

4. Roedd yn aberthu anifeiliaid a llosgi arogldarth ar yr allorau lleol ar y bryniau ac o dan pob coeden ddeiliog.

5. Yna dyma Resin, brenin Syria, a Pecach fab Remaleia, brenin Israel, yn dod i ryfela yn erbyn Jerwsalem. Dyma nhw'n gwarchae ar Ahas, ond roedden nhw'n methu ei goncro.

6. (Tua'r adeg yna hefyd llwyddodd Resin, brenin Syria, i ennill dinas Elat yn ôl i Syria. Gyrrodd bobl Jwda allan o Elat, a daeth pobl o Edom yn ôl i fyw yno. Maen nhw'n dal yno hyd heddiw.)

7. Anfonodd Ahas y neges yma at Tiglath-pileser, brenin Asyria: “Dy was di ydw i, a dw i'n dibynnu arnat ti. Mae brenin Syria a brenin Israel yn ymosod arna i. Plîs wnei di ddod i'm hachub i.”

8. Roedd Ahas hefyd wedi cymryd yr aur a'r arian oedd yn y deml ac yn storfa'r palas, a'i anfon yn dâl i frenin Asyria.

9. A dyma frenin Asyria yn cytuno ac yn anfon ei fyddin i ymosod ar Syria. Dyma nhw'n concro dinas Damascus, cymryd y bobl yno yn gaethion i Cir a lladd y brenin Resin.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 16