Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 14:16-29 beibl.net 2015 (BNET)

16. Pan fuodd Jehoas farw cafodd ei gladdu yn Samaria gyda brenhinoedd Israel, a dyma'i fab, Jeroboam, yn dod yn frenin yn ei le.

17. Buodd Amaseia fab Joas, brenin Jwda, fyw am un deg pump o flynyddoedd ar ôl i Jehoas, brenin Israel, farw.

18. Mae gweddill hanes Amaseia i'w gael yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda.

19. Dyma ryw bobl yn Jerwsalem yn cynllwynio yn ei erbyn, a dyma fe'n dianc i Lachish. Ond dyma nhw'n anfon dynion ar ei ôl a'i ladd yno.

20. Dyma'r corff yn cael ei gymryd yn ôl i Jerwsalem ar geffylau, a cafodd ei gladdu yn Ninas Dafydd gyda'i hynafiaid.

21. Yna dyma bobl Jwda i gyd yn cymryd Wseia, mab Amaseia, oedd yn un deg chwech oed, a'i wneud e yn frenin yn lle ei dad.

22. Wseia wnaeth ennill tref Elat yn ôl i Jwda a'i hailadeiladu ar ôl i'w dad Amaseia farw.

23. Pan oedd Amaseia fab Joas, wedi bod yn frenin Jwda am un deg pump o flynyddoedd, dyma Jeroboam fab Jehoas yn dod yn frenin ar Israel. Bu'n frenin yn Samaria am bedwar deg un o flynyddoedd.

24. Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, a gwrthod troi cefn ar yr eilunod roedd Jeroboam fab Nebat wedi eu codi i achosi i bobl Israel bechu.

25. Ennillodd dir yn ôl i Israel nes bod y ffin yn mynd o Fwlch Chamath yn y gogledd i'r Môr Marw yn y de. Roedd yr ARGLWYDD, Duw Israel, wedi dweud y byddai'n gwneud hynny trwy ei was Jona fab Amittai, y proffwyd o Gath-heffer.

26. Roedd yr ARGLWYDD wedi gweld bod pobl Israel yn cael eu cam-drin yn erchyll. Doedd neb o gwbl ar ôl, caeth na rhydd, i'w helpu.

27. Ond doedd yr ARGLWYDD ddim am gael gwared ag Israel yn llwyr, felly dyma fe'n anfon Jeroboam fab Jehoas i'w hachub nhw.

28. Mae gweddill hanes Jeroboam, y cwbl wnaeth e ei gyflawni a'i lwyddiant milwrol yn adennill rheolaeth dros drefi Damascus a Chamath, i gyd i'w gweld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.

29. Bu farw Jeroboam a chafodd ei gladdu gyda brenhinoedd Israel. A dyma Sechareia, ei fab, yn dod yn frenin yn ei le.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 14