Ennillodd dir yn ôl i Israel nes bod y ffin yn mynd o Fwlch Chamath yn y gogledd i'r Môr Marw yn y de. Roedd yr ARGLWYDD, Duw Israel, wedi dweud y byddai'n gwneud hynny trwy ei was Jona fab Amittai, y proffwyd o Gath-heffer.