Yna dyma nhw'n dechrau aberthu a chyflwyno offrymau i'w llosgi i Baal. Roedd Jehw wedi gosod wyth deg o ddynion tu allan i'r deml. Ac roedd wedi dweud wrthyn nhw, “Os bydd rhywun yn gadael i un o'r bobl yma ddianc, bydd yn talu gyda'i fywyd!”