Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 10:16-31 beibl.net 2015 (BNET)

16. A dyma Jehw yn dweud wrtho, “Tyrd gyda mi, i ti gael gweld gymaint dw i ar dân dros yr ARGLWYDD.”A dyma Jonadab yn mynd gydag e yn ei gerbyd

17. i Samaria. Ar ôl cyrraedd yno, dyma Jehw yn lladd pawb oedd ar ôl o deulu Ahab, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Elias.

18. Casglodd Jehw y bobl i gyd at ei gilydd, a dweud, wrthyn nhw, “Roedd Ahab yn addoli Baal rhyw ychydig, ond dw i, Jehw, yn mynd i'w addoli o ddifrif.

19. Dw i am gynnal aberth mawr i Baal. Felly galwch broffwydi Baal i gyd at ei gilydd, a'i addolwyr, a'i offeiriaid. Peidiwch a gadael neb allan. Bydd unrhyw un sy'n absennol yn cael ei ladd.” (Ond tric cyfrwys oedd y cwbl. Roedd Jehw yn bwriadu lladd addolwyr Baal.)

20. Yna dyma Jehw yn gorchymyn, “Trefnwch ddathliad sbesial i addoli Baal!” A dyma nhw'n gwneud hynny.

21. Dyma Jehw yn anfon neges i bob rhan o wlad Israel. A dyma bawb oedd yn addoli Baal yn dod at ei gilydd – doedd neb yn absennol. Roedd teml Baal yn llawn i'r ymylon!

22. Yna dyma Jehw yn dweud wrth yr un oedd yn gofalu am y gwisgoedd, “Tyrd â gwisg i bob un o'r addolwyr.” A dyma fe'n gwneud hynny.

23. Yna dyma Jehw a Jonadab fab Rechab yn mynd i deml Baal. A dyma Jehw yn dweud wrth addolwyr Baal, “Gwnewch yn siŵr fod yna neb yma sy'n addoli'r ARGLWYDD. Dim ond addolwyr Baal sydd i fod yma.”

24. Yna dyma nhw'n dechrau aberthu a chyflwyno offrymau i'w llosgi i Baal. Roedd Jehw wedi gosod wyth deg o ddynion tu allan i'r deml. Ac roedd wedi dweud wrthyn nhw, “Os bydd rhywun yn gadael i un o'r bobl yma ddianc, bydd yn talu gyda'i fywyd!”

25. Ar ôl gorffen cyflwyno'r offrwm i'w losgi, dyma Jehw yn rhoi gorchymyn i'r gwarchodlu a'i swyddogion, “Ewch i mewn a lladdwch nhw. Peidiwch gadael i neb ddianc.” A dyma nhw'n eu lladd nhw i gyd a gadael y cyrff yn gorwedd yno. Yna dyma'r gwarchodlu a'r swyddogion yn rhuthro i mewn i gysegr mewnol teml Baal,

26. a chymryd y golofn gysegredig allan a'i llosgi.

27. Dyma nhw'n dinistrio'r golofn a teml Baal hefyd. Mae'r safle'n cael ei ddefnyddio fel toiledau cyhoeddus hyd heddiw.

28. Felly roedd Jehw wedi cael gwared ag addoli Baal o wlad Israel.

29. Ond wnaeth e ddim stopio pobl addoli'r eilunod roedd Jeroboam fab Nebat wedi eu codi i achosi i bobl Israel bechu. Roedd y ddau darw ifanc aur yn dal yn Bethel ac yn Dan.

30. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Jehw, “Ti wedi gwneud yn dda iawn a'm plesio i, a gwneud beth roeddwn i eisiau ei weld yn digwydd i linach Ahab. Felly, bydd dy ddisgynyddion di yn teyrnasu ar wlad Israel am bedair cenhedlaeth ar dy ôl.”

31. Ac eto doedd Jehw ddim yn gwbl ufudd i ddeddfau'r ARGLWYDD, Duw Israel. Wnaeth e ddim troi cefn ar yr eilunod roedd Jeroboam wedi eu codi i wneud i Israel bechu.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 10