Felly dyma Saul a'r gwas yn croesi bryniau Effraim drwy ardal Shalisha, ond methu dod o hyd iddyn nhw. Ymlaen wedyn drwy ardal Shaalîm, ac yna drwy ardal Benjamin, ond dal i fethu dod o hyd iddyn nhw.