Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 9:1-8 beibl.net 2015 (BNET)

1. Roedd yna ddyn yn perthyn i lwyth Benjamin o'r enw Cish. Roedd yn ddyn pwysig; yn fab i Abiel, mab Seror, mab Becorath, mab Affeia.

2. Roedd gan Cish ei hun fab o'r enw Saul, oedd yn ddyn ifanc arbennig iawn. Doedd neb tebyg iddo yn Israel gyfan. Roedd yn dalach na phawb arall.

3. Roedd rhai o asennod Cish, tad Saul, wedi mynd ar goll. A dyma Cish yn dweud wrth Saul, “Cymer un o'r gweision hefo ti, a dos i chwilio am yr asennod.”

4. Felly dyma Saul a'r gwas yn croesi bryniau Effraim drwy ardal Shalisha, ond methu dod o hyd iddyn nhw. Ymlaen wedyn drwy ardal Shaalîm, ac yna drwy ardal Benjamin, ond dal i fethu dod o hyd iddyn nhw.

5. Pan ddaethon nhw i ardal Swff, dyma Saul yn dweud wrth y gwas, “Well i ni fynd yn ôl adre. Bydd dad wedi anghofio am yr asennod a dechrau poeni amdanon ni.”

6. Ond meddai'r gwas wrtho, “Mae yna ddyn sy'n proffwydo yn byw y dre acw. Mae parch mawr ato, am fod popeth mae'n ei ddweud yn dod yn wir. Gad i ni fynd i'w weld e. Falle y bydd e'n gallu dweud wrthon ni pa ffordd i fynd.”

7. “Iawn,” meddai Saul, “ond be rown ni iddo? Does gynnon ni ddim bwyd ar ôl hyd yn oed, a dim byd arall i'w gynnig iddo.”

8. Dyma'r gwas yn dweud, “Edrych mae gen i un darn arian bach – dydy e'n ddim llawer, ond gwna i roi hwn i'r proffwyd am ddweud wrthon ni ble i fynd.”

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 9