Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 7:1-7 beibl.net 2015 (BNET)

1. Felly dyma bobl Ciriath-iearim yn nôl Arch yr ARGLWYDD, a mynd â hi i ben y bryn i dŷ Abinadab. Yna dyma nhw'n cysegru Eleasar, ei fab e, i ofalu am yr Arch.

2. Aeth y blynyddoedd heibio. Roedd hi tua dau ddeg o flynyddoedd ers i'r Arch ddod i Ciriath-iearim, ac roedd pobl Israel i gyd yn dyheu am yr ARGLWYDD eto.

3. Dwedodd Samuel wrth bobl Israel, “Os ydych chi wir am droi yn ôl at Dduw â'ch holl galon, taflwch allan eich duwiau eraill, a'r delwau sydd gynnoch chi o'r dduwies Ashtart. Rhowch eich hunain yn llwyr i'r ARGLWYDD, a'i addoli e a neb arall. Wedyn bydd e'n eich achub chi oddi wrth y Philistiaid.”

4. Felly dyma bobl Israel yn cael gwared â'r delwau o Baal a'r dduwies Ashtart, a dechrau addoli'r ARGLWYDD yn unig.

5. Dwedodd Samuel wrthyn nhw am gasglu pawb at ei gilydd yn Mitspa. “Gwna i weddïo ar yr ARGLWYDD trosoch chi,” meddai.

6. Wedi iddyn nhw ddod at ei gilydd yn Mitspa, dyma nhw'n codi dŵr o'r ffynnon a'i dywallt ar lawr fel offrwm i Dduw. Wnaethon nhw ddim bwyta trwy'r dydd. “Dŷn ni wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD,” medden nhw. (A Samuel oedd yn arwain pobl Israel yn Mitspa.)

7. Clywodd y Philistiaid fod pobl Israel wedi dod at ei gilydd yn Mitspa. Felly dyma lywodraethwyr y Philistiaid yn penderfynu ymosod arnyn nhw. Roedd pobl Israel wedi dychryn pan glywon nhw hyn.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 7