Ond dyma rai o bobl Beth-shemesh yn cael eu taro gan yr ARGLWYDD, am eu bod nhw wedi edrych i mewn i Arch Duw. Buodd saith deg ohonyn nhw farw, ac roedd pobl Beth-shemesh yn galaru'n fawr am fod Duw wedi eu taro nhw mor galed.