Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 23:16-29 beibl.net 2015 (BNET)

16. Dyma Jonathan, mab Saul, yn mynd draw i Horesh at Dafydd i'w annog i drystio Duw.

17. Dwedodd wrtho, “Paid bod ag ofn! Fydd fy nhad Saul ddim yn dod o hyd i ti. Ti fydd brenin Israel a bydda i'n ddirprwy i ti. Mae dad yn gwybod hyn yn iawn.”

18. Ar ôl i'r ddau ymrwymo o flaen yr ARGLWYDD i fod yn ffyddlon i'w gilydd, dyma Dafydd yn aros yn Horesh ac aeth Jonathan adre.

19. Aeth rhai o bobl Siff at Saul i Gibea a dweud wrtho, “Wyt ti'n gwybod fod Dafydd yn cuddio wrth ein hymyl ni? Mae yn y cuddfannau wrth Horesh, ar Fryn Hachila i'r de o Jeshimon.

20. Tyrd i lawr pryd bynnag wyt ti eisiau, O frenin. Awn ni'n gyfrifol am ei roi e yn dy afael di.”

21. “Dych chi wedi bod yn garedig iawn ata i. Bendith yr ARGLWYDD arnoch chi!” meddai Saul.

22. “Ewch i baratoi. Gwnewch yn siŵr ble mae e, a pwy sydd wedi ei weld e yno. Maen nhw'n dweud i mi ei fod yn un cyfrwys.

23. Ffeindiwch allan lle yn union mae e'n cuddio. Pan fyddwch chi'n berffaith siŵr, dewch yn ôl ata i, a bydda i'n dod gyda chi. Bydda i yn dod o hyd iddo ble bynnag mae e yng nghanol pobl Jwda i gyd.”

24. Felly dyma nhw'n mynd yn ôl i Siff, o flaen Saul. Roedd Dafydd a'i ddynion yn anialwch Maon, yn yr Araba i'r de o Jeshimon.

25. A dyma Saul a'i ddynion yn mynd i chwilio amdano. Ond dyma Dafydd yn cael gwybod, ac aeth i lawr i le o'r enw Y Graig, ac aros yno yn anialwch Maon.

26. Clywodd Saul am hyn ac aeth ar ôl Dafydd i anialwch Maon.Roedd Saul un ochr i'r mynydd pan oedd Dafydd a'i ddynion yr ochr arall. Roedd Dafydd yn brysio i geisio osgoi Saul, ond roedd Saul a'i filwyr ar fin amgylchynu Dafydd a'i ddynion a'i dal nhw.

27. Ond yna daeth neges yn dweud wrth Saul am frysio'n ôl adre am fod y Philistiaid wedi ymosod ar y wlad.

28. Felly roedd rhaid i Saul stopio mynd ar ôl Dafydd a mynd i ymladd yn erbyn y Philistiaid. (Dyna pam mae'r lle yn cael ei alw yn Graig y Gwahanu.)

29. Yna aeth Dafydd i fyny oddi yno ac aros mewn lle saff yn En-gedi.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 23