Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 13:6-23 beibl.net 2015 (BNET)

6. Pan welodd byddin Israel mor ddrwg oedd hi arnyn nhw, dyma nhw'n colli pob hyder a mynd i guddio mewn ogofâu, drysni, yn y creigiau ac mewn pydewau.

7. Roedd rhai wedi dianc dros yr Afon Iorddonen i ardal Gad a Gilead. Ond arhosodd Saul yn Gilgal, er fod y fyddin oedd gydag e i gyd wedi dychryn am eu bywydau.

8. Roedd Saul wedi aros am wythnos fel roedd Samuel wedi gofyn iddo wneud. Ond ddaeth Samuel ddim, a dechreuodd y dynion ei adael e.

9. Felly dyma Saul yn dweud, “Dewch a'r anifeiliaid sydd i'w haberthu yma – y rhai sydd i'w llosgi a'r rhai sy'n offrwm i ofyn am fendith yr ARGLWYDD.” A dyma fe'n aberthu i Dduw.

10. Roedd e newydd orffen llosgi'r aberth pan ddaeth Samuel i'r golwg. A dyma Saul yn mynd allan i'w gyfarfod a'i gyfarch.

11. Ond dyma Samuel yn gofyn iddo, “Be wyt ti wedi ei wneud?” Atebodd Saul, “Roedd y dynion yn dechrau gadael. Doeddet ti ddim wedi dod fel roedden ni wedi trefnu, ac roedd y Philistiaid yn casglu at ei gilydd yn Michmas.

12. Roedd gen i ofn y bydden nhw'n ymosod arna i yn Gilgal, a finnau heb ofyn i Dduw am help. Felly doedd gen i ddim dewis ond mynd ati i losgi'r aberth.”

13. “Ti wedi gwneud peth gwirion,” meddai Samuel wrtho. “Dylet ti fod wedi gwneud beth ddwedodd yr ARGLWYDD wrthot ti. Petaet ti wedi bod yn ufudd byddai'r ARGLWYDD wedi cadw'r olyniaeth frenhinol yn dy deulu di am byth.

14. Ond nawr, fydd hynny ddim yn digwydd. Bydd yr ARGLWYDD yn dod o hyd i ddyn sydd wrth ei fodd, ac yn dewis hwnnw i arwain ei bobl am dy fod ti heb gadw ei orchmynion.”

15. Yna dyma Samuel yn gadael Gilgal a mynd i ffwrdd.Aeth Saul a'r milwyr oedd ar ôl ganddo i ymuno gyda'r dynion eraill oedd wedi dod i ryfela. A dyma nhw'n mynd o Gilgal i Gibea yn Benjamin. Pan gyfrodd Saul y dynion oedd ar ôl gydag e, doedd ond chwe chant ohonyn nhw!

16. Roedd Saul, Jonathan ei fab a'r dynion oedd gyda nhw yn Gibea yn Benjamin, tra roedd y Philistiaid yn gwersylla yn Michmas.

17. Yn sydyn aeth tair mintai allan o wersyll y Philistiaid i ymosod ar wahanol ardaloedd. Aeth un i'r gogledd i gyfeiriad Offra yn ardal Shwal,

18. un arall i'r gorllewin i gyfeiriad Beth-choron, a'r drydedd i gyfeiriad yr anialwch yn y dwyrain, i'r grib sydd uwchben Dyffryn Seboïm.

19. Bryd hynny doedd dim gof i'w gael yn holl wlad Israel. Roedd y Philistiaid eisiau rhwystro'r Hebreaid rhag gwneud cleddyfau a gwaywffyn.

20. Felly roedd rhaid i bobl Israel fynd at y Philistiaid i roi min ar swch aradr, hof, bwyell neu gryman.

21. Roedd rhaid talu prisiau uchel – 8 gram o arian am hogi swch aradr neu hof, 4 gram o arian am fwyell, a'r un faint am osod pen ar ffon brocio ychen.

22. Felly pan ddechreuodd y frwydr doedd gan filwyr Saul a Jonathan ddim cleddyfau na gwaywffyn; dim ond Saul ei hun a'i fab Jonathan oedd â rhai.

23. Dyma fyddin y Philistiaid yn symud allan i gyfeiriad bwlch Michmas.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 13