Yn y cyfamser roedd y Philistiaid yn paratoi i ymosod ar Israel. Roedden nhw wedi casglu tair mil o gerbydau rhyfel, chwe mil o farchogion a gormod o filwyr traed i'w cyfrif, ac wedi codi gwersyll yn Michmas i'r dwyrain o Beth-afen.