Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 12:4-15 beibl.net 2015 (BNET)

4. Ond dyma nhw'n ateb, “Na, dwyt ti ddim wedi'n twyllo ni, na gwneud i ni ddioddef, na chymryd dim gan unrhyw un.”

5. Yna dyma Samuel yn dweud, “Mae ARGLWYDD yn dyst heddiw, a'r brenin ddewisodd e, eich bod chi wedi cael hyd i ddim byd o gwbl yn fy erbyn i.” “Ydy, mae e'n dyst,” medden nhw.

6. Yna dyma Samuel yn mynd ymlaen i ddweud wrth y bobl. “Yr ARGLWYDD wnaeth ddewis Moses ac Aaron, ac arwain eich hynafiaid chi allan o wlad yr Aifft.

7. Safwch mewn trefn o flaen yr ARGLWYDD i mi gael rhoi siars i chi. Mae'r ARGLWYDD wedi bod mor deg bob amser yn y ffordd mae wedi eich trin chi a'ch hynafiaid.

8. Aeth Jacob i lawr i'r Aifft. Ond ar ôl hynny dyma'ch hynafiaid yn gweiddi ar yr ARGLWYDD am help am fod yr Eifftiaid yn eu cam-drin nhw. Anfonodd yr ARGLWYDD Moses ac Aaron i'w harwain nhw allan o'r Aifft i'r lle yma.

9. Ond dyma nhw'n anghofio'r ARGLWYDD eu Duw. Felly dyma Duw yn gadael i Sisera, capten byddin Chatsor, a'r Philistiaid, a brenin Moab eu cam-drin nhw. Daeth y rhain i ryfela yn eu herbyn nhw.

10. Felly dyma nhw'n gweiddi ar yr ARGLWYDD eto, a dweud: ‘Ein bai ni ydy hyn. Dŷn ni wedi troi cefn arnat ti ARGLWYDD ac wedi mynd i addoli eilunod Baal a delwau o'r dduwies Ashtart. Plîs achub ni nawr o afael ein gelynion a byddwn ni'n dy addoli di.’

11. Felly dyma'r ARGLWYDD yn anfon Gideon, Barac, Jefftha a fi, Samuel, i'ch achub chi oddi wrth y gelynion o'ch cwmpas, fel eich bod chi'n saff.

12. “Ond pan welsoch chi fod Nachash, brenin Ammon, yn mynd i ymosod arnoch chi, dyma chi'n dweud wrtho i, ‘Na! Dŷn ni eisiau brenin’ – pan oedd yr ARGLWYDD eich Duw i fod yn frenin arnoch chi!

13. Felly dyma chi! Dyma'r brenin dych chi wedi ei ddewis, yr un wnaethoch chi ofyn amdano! Ydy, mae'r ARGLWYDD wedi rhoi brenin i chi!

14. “Os gwnewch chi barchu'r ARGLWYDD a'i addoli e, gwrando arno a pheidio gwrthryfela yn ei erbyn, ac os gwnewch chi a'ch brenin ddilyn yr ARGLWYDD eich Duw, bydd popeth yn iawn.

15. Ond os wnewch chi ddim gwrando, a gwrthod bod yn ufudd, yna bydd yr ARGLWYDD yn eich cosbi chi a'r brenin.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 12