Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 23:27-32 beibl.net 2015 (BNET)

27. Y peth olaf roedd Dafydd wedi ei ddweud oedd fod rhaid rhifo'r Lefiaid oedd yn dau ddeg mlwydd oed neu'n hŷn.

28. Gwaith y Lefiaid oedd helpu'r offeiriaid, disgynyddion Aaron, wrth iddyn nhw wasanaethu yn nheml yr ARGLWYDD. Nhw oedd yn gofalu am yr iard a'r stordai, am olchi'r llestri cysegredig ac unrhyw beth arall oedd angen ei wneud yn nheml Dduw.

29. Nhw oedd yn gyfrifol am y bara oedd yn cael ei osod yn bentwr bob dydd, y blawd mân ar gyfer yr offrwm o rawn, y bisgedi tenau, y cacennau radell, a'r holl gymysgu a'r pwyso a'r mesur.

30. Roedden nhw i fod yn bresennol bob bore i ddiolch i'r ARGLWYDD a chanu mawl iddo. Hefyd bob gyda'r nos,

31. a pan oedd aberth yn cael ei losgi ar y Saboth, yn fisol ar Ŵyl y lleuad newydd, ac ar y gwyliau crefyddol eraill. Roedd yn rhaid i'r nifer cywir ohonyn nhw fod yn bresennol bob tro.

32. Nhw hefyd oedd yn gyfrifol am Babell Presenoldeb Duw a'r cysegr sanctaidd. Roedden nhw'n helpu'r offeiriaid, disgynyddion Aaron, wrth iddyn nhw wasanaethu yn nheml yr ARGLWYDD.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 23