Gwaith y Lefiaid oedd helpu'r offeiriaid, disgynyddion Aaron, wrth iddyn nhw wasanaethu yn nheml yr ARGLWYDD. Nhw oedd yn gofalu am yr iard a'r stordai, am olchi'r llestri cysegredig ac unrhyw beth arall oedd angen ei wneud yn nheml Dduw.