26. Felly, bellach, doedd dim rhaid i'r Lefiaid gario'r tabernacl a'r holl offer ar ei chyfer.
27. Y peth olaf roedd Dafydd wedi ei ddweud oedd fod rhaid rhifo'r Lefiaid oedd yn dau ddeg mlwydd oed neu'n hŷn.
28. Gwaith y Lefiaid oedd helpu'r offeiriaid, disgynyddion Aaron, wrth iddyn nhw wasanaethu yn nheml yr ARGLWYDD. Nhw oedd yn gofalu am yr iard a'r stordai, am olchi'r llestri cysegredig ac unrhyw beth arall oedd angen ei wneud yn nheml Dduw.