Beth amser wedyn roedd brwydr arall yn erbyn y Philistiaid, yn Geser. Y tro hwnnw dyma Sibechai o Chwsha yn lladd Sippai, un o ddisgynyddion y Reffaiaid. Roedd y Philistiaid wedi eu trechu'n llwyr.