Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 20:1-5 beibl.net 2015 (BNET)

1. Yn y gwanwyn, sef yr adeg pan fyddai brenhinoedd yn arfer mynd i ryfela, dyma Joab yn arwain ei fyddin i ryfel a dinistrio gwlad yr Ammoniaid. Dyma fe'n gwarchae ar Rabba tra roedd Dafydd yn dal yn Jerwsalem, a dyma Joab yn concro Rabba a'i dinistrio.

2. Dyma Dafydd yn cymryd coron eu brenin nhw a'i rhoi ar ei ben ei hun. Roedd hi wedi ei gwneud o dri deg cilogram o aur, ac roedd gem werthfawr arni. Casglodd Dafydd lot fawr o ysbail o'r ddinas hefyd.

3. Symudodd y bobl allan, a'u gorfodi nhw i weithio iddo gyda llifau, ceibiau a bwyeill. Gwnaeth Dafydd yr un peth gyda pob un o drefi'r Ammoniaid. Yna aeth yn ôl i Jerwsalem gyda'i fyddin gyfan.

4. Beth amser wedyn roedd brwydr arall yn erbyn y Philistiaid, yn Geser. Y tro hwnnw dyma Sibechai o Chwsha yn lladd Sippai, un o ddisgynyddion y Reffaiaid. Roedd y Philistiaid wedi eu trechu'n llwyr.

5. Mewn brwydr arall eto yn erbyn y Philistiaid, dyma Elchanan fab Jair yn lladd Lachmi, brawd Goliath o Gath (yr un oedd â gwaywffon gyda choes iddi oedd fel trawst ffrâm gwehydd!)

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 20