Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 3:6-14 beibl.net 2015 (BNET)

6. Atebodd Solomon, “Roeddet ti'n garedig iawn at Dafydd fy nhad wrth iddo fyw yn ffyddlon i ti, yn gywir ac yn onest. Ac rwyt ti wedi dal ati i fod yn arbennig o garedig drwy adael i mi, ei fab, fod yn frenin yn ei le.

7. A nawr, ARGLWYDD, fy Nuw, ti wedi fy ngwneud i yn frenin yn lle fy nhad Dafydd. Ond dyn ifanc dibrofiad ydw i,

8. a dyma fi yng nghanol y bobl rwyt ti wedi eu dewis. Mae yna gymaint ohonyn nhw mae'n amhosibl eu cyfrif nhw i gyd!

9. Rho i mi'r gallu i wrando a deall, er mwyn i mi lywodraethu dy bobl di'n iawn, a gallu dweud y gwahaniaeth rhwng drwg a da. Fel arall, pa obaith sydd i unrhyw un lywodraethu cenedl mor fawr?”

10. Roedd ateb Solomon a'r hyn roedd wedi gofyn amdano yn plesio yr ARGLWYDD yn fawr.

11. A dyma Duw'n dweud wrtho, “Am mai dyna rwyt ti wedi gofyn amdano – y gallu i lywodraethu yn ddoeth – a dy fod ti ddim wedi gofyn am gael byw yn hir, neu am gyfoeth mawr, neu i dy elynion gael eu lladd,

12. dw i'n mynd roi'r hyn rwyt ti eisiau i ti. Dw i'n mynd i dy wneud di'n fwy doeth a deallus nag unrhyw un ddaeth o dy flaen neu ddaw ar dy ôl.

13. Ond dw i hefyd yn mynd i roi i ti beth wnest ti ddim gofyn amdano, cyfoeth ac anrhydedd. Fydd yna ddim brenin tebyg i ti tra byddi byw.

14. Ac os byddi di'n byw yn ufudd i mi ac yn cadw fy rheolau i fel roedd dy dad Dafydd yn gwneud, bydda i'n rhoi oes hir i ti.”

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 3