Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 3:22-28 beibl.net 2015 (BNET)

22. Yna dyma'r ferch arall yn dweud, “Na! Fy mab i ydy'r un byw. Dy fab di sydd wedi marw.”A dyma'r gyntaf yn ateb “Nage, yr un marw ydy dy fab di. Fy mab i ydy'r un byw.” Roedd y ddwy ohonyn nhw'n dadlau â'i gilydd fel hyn o flaen y brenin.

23. Yna dyma'r brenin yn dweud, “Mae un ohonoch chi'n dweud, ‘Fy mab i ydy hwn; mae dy fab di wedi marw’, a'r llall yn dweud, ‘Na! Dy fab di sydd wedi marw; fy mab i ydy'r un byw.’”

24. Yna dyma'r brenin yn gorchymyn i'w weision, “Dewch â chleddyf i mi.” A dyma nhw'n dod ag un iddo.

25. Wedyn dyma'r brenin yn dweud, “Torrwch y plentyn byw yn ei hanner, a rhowch hanner bob un iddyn nhw.”

26. Ond dyma fam y plentyn byw yn ymateb (achos roedd hi'n torri ei chalon wrth feddwl am y plentyn yn cael ei ladd). Dyma hi'n dweud wrth y brenin, “Syr, rho'r plentyn byw iddi hi. Da chi paid â'i ladd e.” Ond roedd y llall yn dweud, “Os nad ydw i'n ei gael e, gei di mohono chwaith – rhannwch e!”

27. A dyma'r brenin yn dweud, “Rhowch y plentyn byw i'r wraig gyntaf. Peidiwch ei ladd e. Hi ydy'r fam.”

28. Pan glywodd pobl Israel am y ffordd roedd y brenin wedi setlo'r achos, roedden nhw'n rhyfeddu. Roedden nhw'n gweld fod Duw wedi rhoi doethineb anghyffredin iddo allu barnu fel yma.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 3