Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 20:34-43 beibl.net 2015 (BNET)

34. A dyma Ben-hadad yn dweud wrtho, “Dw i am roi'r trefi wnaeth fy nhad eu cymryd oddi ar dy dad di yn ôl i ti. A cei di sefydlu canolfannau marchnata yn Damascus, fel roedd fy nhad i wedi gwneud yn Samaria.” Dyma Ahab yn dweud, “Dw i am i ni wneud cytundeb heddwch cyn dy ollwng di'n rhydd.” Felly dyma'r ddau yn gwneud cytundeb, a dyma Ben-hadad yn cael mynd yn rhydd.

35. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth rhyw ddyn oedd yn aelod o urdd o broffwydi i ddweud wrth un arall, “Taro fi!” Ond dyma'r llall yn gwrthod.

36. Felly dyma fe'n dweud wrtho, “Am i ti wrthod gwrando ar yr ARGLWYDD, pan fyddi di'n fy ngadael i bydd llew yn ymosod arnat ti.” Ac wrth iddo fynd oddi wrtho dyma lew yn ymosod arno a'i ladd.

37. Yna dyma'r proffwyd yn dweud wrth ddyn arall, “Taro fi!” A dyma hwnnw'n taro'r proffwyd yn galed a'i anafu.

38. Yna dyma proffwyd yn mynd i ddisgwyl am y brenin ar ochr y ffordd. Roedd wedi cuddio ei wyneb rhag iddo gael ei nabod.

39. Pan ddaeth y brenin heibio, dyma'r proffwyd yn galw arno. “Roeddwn i yng nghanol y frwydr a dyma rhywun yn rhoi carcharor i mi ofalu amdano. ‘Gwylia hwn!’ meddai wrtho i, ‘Os bydd e'n dianc byddi di'n talu â'th fywyd, neu dalu dirwy o dri deg pum cilogram o arian.’

40. Ond tra roedd dy was yn brysur yn gwneud hyn a'r llall, dyma'r carcharor yn diflannu.”Dyma'r brenin yn ateb, “Ti wedi dweud beth ydy'r gosb, ac felly bydd hi.”

41. Yna, heb oedi dim, dyma'r proffwyd yn dangos ei wyneb. A dyma frenin Israel yn sylweddoli ei fod yn un o'r proffwydi.

42. A dyma'r proffwyd yn dweud wrtho, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Am i ti ollwng yn rhydd y dyn roeddwn i wedi dweud ei fod i farw, byddi di'n marw yn ei le, a bydd dy bobl di yn dioddef yn lle ei bobl e.’”

43. Dyma frenin Israel yn mynd adre i Samaria yn sarrug a blin.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 20