15. Daeth Simri yn frenin ar Israel pan oedd Asa wedi bod yn frenin Jwda ers dau ddeg saith o flynyddoedd. Bu Simri'n frenin Israel yn Tirtsa am saith diwrnod. Roedd byddin Israel yn ymosod ar Gibbethon, un o drefi'r Philistiaid, ar y pryd.
16. Dyma'r neges yn cyrraedd y gwersyll fod Simri wedi cynllwyn yn erbyn y brenin a'i ladd. Felly, y diwrnod hwnnw yn y gwersyll, dyma'r fyddin yn gwneud Omri, eu cadfridog, yn frenin ar Israel.
17. A dyma Omri a'i fyddin yn gadael Gibbethon a mynd i warchae ar Tirtsa, prifddinas Israel.
18. Roedd Simri'n gweld bod y ddinas wedi ei chipio, felly dyma fe'n mynd i gaer y palas, rhoi'r palas ar dân, a bu farw yn y fflamau.
19. Roedd hyn wedi digwydd am fod Simri wedi pechu. Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel gwnaeth Jeroboam; roedd e hefyd wedi gwneud i Israel bechu.
20. Mae gweddill hanes Simri, a hanes ei gynllwyn, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.
21. Yn y cyfnod yma roedd pobl Israel wedi rhannu'n ddwy garfan. Roedd hanner y boblogaeth eisiau gwneud Tibni fab Ginath yn frenin, a'r hanner arall yn cefnogi Omri.
22. Ond roedd dilynwyr Omri yn gryfach na chefnogwyr Tibni fab Ginath. Bu farw Tibni, a daeth Omri yn frenin.
23. Daeth Omri yn frenin ar Israel pan oedd Asa wedi bod yn frenin Jwda ers tri deg un o flynyddoedd. Bu Omri yn frenin am un deg dwy o flynyddoedd, chwech ohonyn nhw yn Tirtsa.