Daeth Simri yn frenin ar Israel pan oedd Asa wedi bod yn frenin Jwda ers dau ddeg saith o flynyddoedd. Bu Simri'n frenin Israel yn Tirtsa am saith diwrnod. Roedd byddin Israel yn ymosod ar Gibbethon, un o drefi'r Philistiaid, ar y pryd.