Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 13:3-15 beibl.net 2015 (BNET)

3. Ac mae'r ARGLWYDD yn rhoi arwydd yma heddiw. Bydd yr allor yn cael ei dryllio, a'r lludw sydd arni'n syrthio ar lawr.’”

4. Pan glywodd y brenin beth ddwedodd y proffwyd am yr allor yn Bethel, dyma fe'n estyn ei law allan dros yr allor. “Arestiwch e!” meddai. A dyma'r fraich oedd wedi ei hestyn allan yn cael ei pharlysu. Doedd e ddim yn gallu ei thynnu'n ôl.

5. Ac yna dyma'r allor yn dryllio a'r lludw arni yn syrthio ar lawr, yn union fel roedd y proffwyd wedi dweud wrth gyhoeddi neges yr ARGLWYDD.

6. Yna dyma'r brenin yn pledio ar y proffwyd, “Gweddïa ar yr ARGLWYDD dy Dduw, a gofyn iddo wella fy mraich i.” A dyma'r proffwyd yn gweddïo ar yr ARGLWYDD, a dyma fraich y brenin yn cael ei gwneud yn iawn fel o'r blaen.

7. Yna dyma'r brenin yn dweud wrth y proffwyd, “Tyrd adre gyda mi i gael rhywbeth i'w fwyta. Dw i eisiau rhoi anrheg i ti.”

8. Ond dyma'r proffwyd yn ei ateb, “Hyd yn oed petaet ti'n rhoi hanner dy eiddo i mi, fyddwn ni ddim yn mynd gyda ti i fwyta dim nac i yfed dŵr yn y lle yma.

9. Achos dwedodd y ARGLWYDD yn glir wrtho i, ‘Paid bwyta nac yfed dim yno, a paid mynd adre'r ffordd aethost ti yno.’”

10. Felly dyma fe'n troi am adre ar hyd ffordd wahanol i'r ffordd ddaeth e i Fethel.

11. Roedd yna broffwyd arall, dyn hen iawn, yn byw yn Bethel. Dyma'i feibion yn dweud yr hanes wrtho – beth oedd wedi digwydd yn Bethel y diwrnod hwnnw, a beth oedd y proffwyd wedi ei ddweud wrth y brenin.

12. A dyma fe'n eu holi, “Pa ffordd aeth e?” Esboniodd ei feibion pa ffordd oedd y proffwyd o Jwda wedi mynd.

13. Yna dyma fe'n gofyn iddyn nhw gyfrwyo asyn iddo. Dyma nhw'n gwneud hynny, ac aeth ar ei gefn

14. a mynd ar ôl y proffwyd.Daeth o hyd iddo yn eistedd o dan goeden dderwen, a gofynnodd iddo, “Ai ti ydy'r proffwyd ddaeth o Jwda?”A dyma hwnnw'n ateb, “Ie.”

15. Yna dyma fe'n dweud wrtho, “Tyrd adre gyda mi am damaid o fwyd.”

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 13