Dyma fe'n cyhoeddi neges gan yr ARGLWYDD yn erbyn yr allor: “O allor, allor!” meddai, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud. ‘Bydd plentyn yn cael ei eni i deulu Dafydd. Joseia fydd ei enw. Bydd e'n lladd offeiriaid yr allorau lleol sy'n dod yma i losgi arogldarth! Bydd esgyrn dynol yn cael eu llosgi arnat ti!