Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 12:17-33 beibl.net 2015 (BNET)

17. (Er, roedd rhai o bobl Israel yn byw yn nhrefi Jwda, a Rehoboam oedd eu brenin nhw.)

18. Dyma'r Brenin Rehoboam yn anfon Adoniram, swyddog y gweithlu gorfodol, at bobl Israel, ond dyma nhw'n taflu cerrig ato a'i ladd. Felly dyma'r Brenin Rehoboam yn neidio yn ei gerbyd a dianc yn ôl i Jerwsalem.

19. Mae gwrthryfel llwythau Israel yn erbyn disgynyddion Dafydd wedi para hyd heddiw.

20. Pan glywodd pobl Israel fod Jeroboam wedi dod yn ôl, dyma nhw'n galw pawb at ei gilydd. Yna dyma nhw'n anfon amdano a'i wneud e'n frenin ar Israel gyfan. Dim ond llwyth Jwda oedd yn aros yn ffyddlon i deulu brenhinol Dafydd.

21. Daeth Rehoboam, mab Solomon, yn ôl i Jerwsalem a galw dynion Jwda a llwyth Benjamin at ei gilydd. Roedd ganddo gant wyth deg mil o filwyr profiadol i fynd i ryfel yn erbyn Israel a cheisio ennill y deyrnas yn ôl.

22. Ond cafodd Shemaia y proffwyd neges gan Dduw.

23. “Dywed hyn wrth Rehoboam brenin Jwda ac wrth bobl Jwda a Benjamin, a phawb arall:

24. ‘Mae'r ARGLWYDD yn dweud, “Peidiwch mynd i ryfel yn erbyn eich brodyr, pobl Israel. Ewch adre i gyd, am mai fi sydd wedi gwneud i hyn ddigwydd.”’” A dyma nhw'n gwrando ar yr ARGLWYDD a mynd yn ôl adre fel roedd e wedi dweud.

25. Dyma Jeroboam yn adeiladu caer Sichem yn y bryniau yn Effraim, a mynd i fyw yno. Ond yna dyma fe'n adeiladu Penuel, a symud yno.

26. Roedd Jeroboam yn ofni y byddai'r frenhiniaeth yn mynd yn ôl i deulu Dafydd.

27. Roedd yn ofni pe bai'r bobl yn mynd i aberthu yn Nheml yr ARGLWYDD yn Jerwsalem, y bydden nhw'n cael eu denu yn ôl at eu hen feistr, Rehoboam, brenin Jwda, ac y byddai e'i hun yn cael ei ladd ganddyn nhw.

28. Ar ôl trafod gyda'i gynghorwyr, dyma fe'n gwneud dau darw ifanc o aur, a dweud wrth y bobl, “Mae'n ormod o drafferth i chi fynd i fyny i Jerwsalem i addoli.Bobl Israel, dyma'r duwiauwnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft.”

29. A dyma fe'n gosod un tarw aur yn Bethel, a'r llall yn Dan.

30. Gwnaeth i Israel bechu yn ofnadwy. Aeth y bobl ag un ohonyn nhw mewn prosesiwn yr holl ffordd i Dan!

31. Dyma fe'n adeiladu temlau lle roedd allorau lleol, a gwneud pob math o bobl yn offeiriaid – pobl oedd ddim o lwyth Lefi.

32. A dyma fe'n sefydlu Gŵyl ar y pymthegfed diwrnod o'r wythfed mis, fel yr un yn Jwda. Yna dyma fe'n mynd at yr allor yn Bethel i aberthu anifeiliaid i'r teirw roedd wedi eu gwneud. Yn Bethel hefyd dyma fe'n apwyntio offeiriaid i'r allorau roedd e wedi eu codi.

33. Ar y pymthegfed diwrnod o'r wythfed mis (dyddiad roedd wedi ei ddewis o'i ben a'i bastwn ei hun), dyma Jeroboam yn aberthu anifeiliaid ar yr allor wnaeth e yn Bethel. Roedd wedi sefydlu Gŵyl i bobl Israel, a mynd i fyny at yr allor ei hun i losgi arogldarth.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 12