Pan glywodd pobl Israel fod Jeroboam wedi dod yn ôl, dyma nhw'n galw pawb at ei gilydd. Yna dyma nhw'n anfon amdano a'i wneud e'n frenin ar Israel gyfan. Dim ond llwyth Jwda oedd yn aros yn ffyddlon i deulu brenhinol Dafydd.