Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 12:12-24 beibl.net 2015 (BNET)

12. Dyma Jeroboam, a'r bobl oedd gydag e, yn mynd yn ôl at Rehoboam ar ôl deuddydd, fel roedd y brenin wedi dweud.

13. A dyma'r brenin yn siarad yn chwyrn gyda'r bobl, ac yn anwybyddu cyngor y dynion hŷn

14. a gwrando ar y dynion ifanc.“Oedd fy nhad yn drwm arnoch chi?” meddai. “Wel, bydda i yn pwyso'n drymach! Oedd fy nhad yn defnyddio chwip i'ch cosbi chi? Bydda i'n defnyddio chwip fydd yn rhwygo'ch cnawd chi!”

15. Roedd y brenin yn gwrthod gwrando ar y bobl. Ond roedd llaw'r ARGLWYDD tu ôl i'r cwbl oedd yn digwydd, er mwyn i'r neges roedd wedi ei rhoi i Jeroboam fab Nebat drwy Achïa o Seilo ddod yn wir.

16. Pan welodd y bobl fod y brenin yn gwrthod gwrando arnyn nhw, dyma nhw'n rhoi'r neges yma iddo:“Beth sydd gynnon ni i'w wneud â Dafydd?Ydyn ni'n perthyn i deulu Jesse? Na!Yn ôl adre bobl Israel!Cei di gadw dy linach dy hun, Dafydd!”Felly dyma bobl Israel yn mynd adre.

17. (Er, roedd rhai o bobl Israel yn byw yn nhrefi Jwda, a Rehoboam oedd eu brenin nhw.)

18. Dyma'r Brenin Rehoboam yn anfon Adoniram, swyddog y gweithlu gorfodol, at bobl Israel, ond dyma nhw'n taflu cerrig ato a'i ladd. Felly dyma'r Brenin Rehoboam yn neidio yn ei gerbyd a dianc yn ôl i Jerwsalem.

19. Mae gwrthryfel llwythau Israel yn erbyn disgynyddion Dafydd wedi para hyd heddiw.

20. Pan glywodd pobl Israel fod Jeroboam wedi dod yn ôl, dyma nhw'n galw pawb at ei gilydd. Yna dyma nhw'n anfon amdano a'i wneud e'n frenin ar Israel gyfan. Dim ond llwyth Jwda oedd yn aros yn ffyddlon i deulu brenhinol Dafydd.

21. Daeth Rehoboam, mab Solomon, yn ôl i Jerwsalem a galw dynion Jwda a llwyth Benjamin at ei gilydd. Roedd ganddo gant wyth deg mil o filwyr profiadol i fynd i ryfel yn erbyn Israel a cheisio ennill y deyrnas yn ôl.

22. Ond cafodd Shemaia y proffwyd neges gan Dduw.

23. “Dywed hyn wrth Rehoboam brenin Jwda ac wrth bobl Jwda a Benjamin, a phawb arall:

24. ‘Mae'r ARGLWYDD yn dweud, “Peidiwch mynd i ryfel yn erbyn eich brodyr, pobl Israel. Ewch adre i gyd, am mai fi sydd wedi gwneud i hyn ddigwydd.”’” A dyma nhw'n gwrando ar yr ARGLWYDD a mynd yn ôl adre fel roedd e wedi dweud.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 12