Hen Destament

Testament Newydd

Rhufeiniaid 8:5-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Canys y rhai sydd yn ôl y cnawd, am bethau'r cnawd y maent yn synio: eithr y rhai sydd yn ôl yr Ysbryd, am bethau'r Ysbryd.

6. Canys syniad y cnawd, marwolaeth yw; a syniad yr ysbryd, bywyd a thangnefedd yw:

7. Oblegid syniad y cnawd sydd elyniaeth yn erbyn Duw: canys nid yw ddarostyngedig i ddeddf Duw; oblegid nis gall chwaith.

8. A'r rhai sydd yn y cnawd, ni allant ryngu bodd Duw.

9. Eithr chwychwi nid ydych yn y cnawd, ond yn yr Ysbryd, od yw Ysbryd Duw yn trigo ynoch. Ac od oes neb heb Ysbryd Crist ganddo, nid yw hwnnw yn eiddo ef.

10. Ac os yw Crist ynoch, y mae'r corff yn farw, oherwydd pechod; eithr yr Ysbryd yn fywyd, oherwydd cyfiawnder.

11. Ac os Ysbryd yr hwn a gyfododd Iesu o feirw sydd yn trigo ynoch; yr hwn a gyfododd Grist o feirw a fywiocâ hefyd eich cyrff marwol chwi, trwy ei Ysbryd yr hwn sydd yn trigo ynoch.

12. Am hynny, frodyr, dyledwyr ydym, nid i'r cnawd, i fyw yn ôl y cnawd.

13. Canys os byw yr ydych yn ôl y cnawd, meirw fyddwch: eithr os ydych yn marweiddio gweithredoedd y corff trwy'r Ysbryd, byw fyddwch.

14. Canys y sawl a arweinir gan Ysbryd Duw, y rhai hyn sydd blant i Dduw.

15. Canys ni dderbyniasoch ysbryd caethiwed drachefn i beri ofn; eithr derbyniasoch Ysbryd mabwysiad, trwy'r hwn yr ydym yn llefain, Abba, Dad.

16. Y mae'r Ysbryd hwn yn cyd‐dystiolaethu â'n hysbryd ni, ein bod ni yn blant i Dduw:

17. Ac os plant, etifeddion hefyd; sef etifeddion i Dduw, a chyd‐etifeddion â Crist: os ydym yn cyd‐ddioddef gydag ef, fel y'n cydogonedder hefyd.

18. Oblegid yr ydwyf yn cyfrif, nad yw dioddefiadau yr amser presennol hwn, yn haeddu eu cyffelybu i'r gogoniant a ddatguddir i ni.

Darllenwch bennod gyflawn Rhufeiniaid 8