Hen Destament

Testament Newydd

Rhufeiniaid 8:37-39 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

37. Eithr yn y pethau hyn oll yr ydym ni yn fwy na choncwerwyr, trwy'r hwn a'n carodd ni.

38. Canys y mae'n ddiogel gennyf, na all nac angau, nac einioes, nac angylion, na thywysogaethau, na meddiannau, na phethau presennol, na phethau i ddyfod,

39. Nac uchder, na dyfnder, nac un creadur arall, ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw, yr hwn sydd yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.

Darllenwch bennod gyflawn Rhufeiniaid 8