Hen Destament

Testament Newydd

Rhufeiniaid 8:14-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. Canys y sawl a arweinir gan Ysbryd Duw, y rhai hyn sydd blant i Dduw.

15. Canys ni dderbyniasoch ysbryd caethiwed drachefn i beri ofn; eithr derbyniasoch Ysbryd mabwysiad, trwy'r hwn yr ydym yn llefain, Abba, Dad.

16. Y mae'r Ysbryd hwn yn cyd‐dystiolaethu â'n hysbryd ni, ein bod ni yn blant i Dduw:

17. Ac os plant, etifeddion hefyd; sef etifeddion i Dduw, a chyd‐etifeddion â Crist: os ydym yn cyd‐ddioddef gydag ef, fel y'n cydogonedder hefyd.

18. Oblegid yr ydwyf yn cyfrif, nad yw dioddefiadau yr amser presennol hwn, yn haeddu eu cyffelybu i'r gogoniant a ddatguddir i ni.

19. Canys awyddfryd y creadur sydd yn disgwyl am ddatguddiad meibion Duw.

20. Canys y creadur sydd wedi ei ddarostwng i oferedd; nid o'i fodd, eithr oblegid yr hwn a'i darostyngodd:

21. Dan obaith y rhyddheir y creadur yntau hefyd, o gaethiwed llygredigaeth, i ryddid gogoniant plant Duw.

22. Canys ni a wyddom fod pob creadur yn cydocheneidio, ac yn cydofidio hyd y pryd hwn.

23. Ac nid yn unig y creadur, ond ninnau hefyd, y rhai sydd gennym flaenffrwyth yr Ysbryd: yr ydym ninnau ein hunain hefyd yn ocheneidio ynom ein hunain, gan ddisgwyl y mabwysiad, sef prynedigaeth ein corff.

24. Canys trwy obaith y'n hiachawyd. Eithr y gobaith a welir, nid yw obaith: oblegid y peth y mae un yn ei weled, i ba beth y mae eto yn ei obeithio?

25. Ond os ydym ni yn gobeithio'r hyn nid ŷm yn ei weled, yr ydym trwy amynedd yn disgwyl amdano.

26. A'r un ffunud y mae'r Ysbryd hefyd yn cynorthwyo ein gwendid ni. Canys ni wyddom ni beth a weddïom, megis y dylem: eithr y mae'r Ysbryd ei hun yn erfyn trosom ni ag ocheneidiau anhraethadwy.

27. A'r hwn sydd yn chwilio'r calonnau, a ŵyr beth yw meddwl yr Ysbryd; canys y mae efe yn ôl ewyllys Duw yn erfyn dros y saint.

Darllenwch bennod gyflawn Rhufeiniaid 8