Hen Destament

Testament Newydd

Rhufeiniaid 3:26-31 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

26. I ddangos ei gyfiawnder ef y pryd hwn; fel y byddai efe yn gyfiawn, ac yn cyfiawnhau y neb sydd o ffydd Iesu.

27. Pa le gan hynny y mae y gorfoledd? Efe a gaewyd allan. Trwy ba ddeddf? ai deddf gweithredoedd? Nage; eithr trwy ddeddf ffydd.

28. Yr ydym ni gan hynny yn cyfrif mai trwy ffydd y cyfiawnheir dyn, heb weithredoedd y ddeddf.

29. Ai i'r Iddewon y mae efe yn Dduw yn unig? onid yw i'r Cenhedloedd hefyd? Yn wir y mae efe i'r Cenhedloedd hefyd:

30. Gan mai un Duw sydd, yr hwn a gyfiawnha'r enwaediad wrth ffydd, a'r dienwaediad trwy ffydd.

31. Wrth hynny, a ydym ni yn gwneuthur y ddeddf yn ddi‐rym trwy ffydd? Na ato Duw: eithr yr ydym yn cadarnhau'r ddeddf.

Darllenwch bennod gyflawn Rhufeiniaid 3