Hen Destament

Testament Newydd

Rhufeiniaid 2:11-25 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. Canys nid oes derbyn wyneb gerbron Duw.

12. Oblegid cynifer ag a bechasant yn ddi‐ddeddf, a gyfrgollir hefyd yn ddi‐ddeddf; a chynifer ag a bechasant yn y ddeddf, a fernir wrth y ddeddf;

13. (Canys nid gwrandawyr y ddeddf sydd gyfiawn gerbron Duw, ond gwneuthurwyr y ddeddf a gyfiawnheir.

14. Canys pan yw'r Cenhedloedd y rhai nid yw'r ddeddf ganddynt, wrth naturiaeth yn gwneuthur y pethau sydd yn y ddeddf, y rhai hyn heb fod y ddeddf ganddynt, ydynt ddeddf iddynt eu hunain:

15. Y rhai sydd yn dangos gweithred y ddeddf yn ysgrifenedig yn eu calonnau, a'u cydwybod yn cyd‐dystiolaethu, a'u meddyliau yn cyhuddo ei gilydd, neu yn esgusodi;)

16. Yn y dydd y barno Duw ddirgeloedd dynion, yn ôl fy efengyl i, trwy Iesu Grist.

17. Wele, Iddew y'th elwir di, ac yr wyt yn gorffwys yn y ddeddf, ac yn gorfoleddu yn Nuw;

18. Ac yn gwybod ei ewyllys ef, ac yn darbod pethau rhagorol, gan fod wedi dy addysgu o'r ddeddf;

19. Ac yr wyt yn coelio dy fod yn dywysog i'r deillion, yn llewyrch i'r rhai sydd mewn tywyllwch,

20. Yn athro i'r angall, yn ddysgawdwr i'r rhai bach, a chennyt ffurf y gwybodaeth a'r gwirionedd yn y ddeddf.

21. Tydi, gan hynny, yr hwn wyt yn addysgu arall, oni'th ddysgi dy hun? yr hwn wyt yn pregethu, Na ladrater, a ladreti di?

22. Yr hwn wyt yn dywedyd, Na odineber, a odinebi di? yr hwn wyt yn ffieiddio delwau, a gysegrysbeili di?

23. Yr hwn wyt yn gorfoleddu yn y ddeddf, trwy dorri'r ddeddf a ddianrhydeddi di Dduw?

24. Canys enw Duw o'ch plegid chwi a geblir ymhlith y Cenhedloedd, megis y mae yn ysgrifenedig.

25. Canys enwaediad yn wir a wna les, os cedwi y ddeddf: eithr os troseddwr y ddeddf ydwyt, aeth dy enwaediad yn ddienwaediad.

Darllenwch bennod gyflawn Rhufeiniaid 2