Hen Destament

Testament Newydd

Rhufeiniaid 15:4-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Canys pa bethau bynnag a ysgrifennwyd o'r blaen, er addysg i ni yr ysgrifennwyd hwynt; fel trwy amynedd a diddanwch yr ysgrythurau, y gallem gael gobaith.

5. A Duw yr amynedd a'r diddanwch a roddo i chwi synied yr un peth tuag at eich gilydd yn ôl Crist Iesu:

6. Fel y galloch yn unfryd, o un genau, ogoneddu Duw, a Thad ein Harglwydd Iesu Grist.

7. Oherwydd paham derbyniwch eich gilydd, megis ag y derbyniodd Crist ninnau i ogoniant Duw.

8. Ac yr wyf yn dywedyd, wneuthur Iesu Grist yn weinidog i'r enwaediad, er mwyn gwirionedd Duw, er mwyn cadarnhau'r addewidion a wnaethpwyd i'r tadau:

9. Ac fel y byddai i'r Cenhedloedd ogoneddu Duw am ei drugaredd; fel y mae yn ysgrifenedig, Am hyn y cyffesaf i ti ymhlith y Cenhedloedd, ac y canaf i'th enw.

10. A thrachefn y mae yn dywedyd, Ymlawenhewch, Genhedloedd, gyda'i bobl ef.

11. A thrachefn, Molwch yr Arglwydd, yr holl Genhedloedd; a chlodforwch ef, yr holl bobloedd.

12. A thrachefn y mae Eseias yn dywedyd, Fe fydd gwreiddyn Jesse, a'r hwn a gyfyd i lywodraethu'r Cenhedloedd: ynddo ef y gobeithia'r Cenhedloedd.

13. A Duw'r gobaith a'ch cyflawno o bob llawenydd a thangnefedd gan gredu, fel y cynyddoch mewn gobaith trwy nerth yr Ysbryd Glân.

14. Ac yr wyf fi fy hun, fy mrodyr, yn credu amdanoch chwi, eich bod chwithau yn llawn daioni, wedi eich cyflawni o bob gwybodaeth, ac yn abl i rybuddio eich gilydd hefyd.

15. Eithr mi a ysgrifennais yn hyach o beth atoch, O frodyr, fel un yn dwyn ar gof i chwi, trwy'r gras a roddwyd i mi gan Dduw;

16. Fel y byddwn weinidog i Iesu Grist at y Cenhedloedd, gan weini i efengyl Duw, fel y byddai offrymiad y Cenhedloedd yn gymeradwy, wedi ei sancteiddio gan yr Ysbryd Glân.

Darllenwch bennod gyflawn Rhufeiniaid 15