Hen Destament

Testament Newydd

Rhufeiniaid 15:1-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A nyni y rhai ydym gryfion, a ddylem gynnal gwendid y rhai gweiniaid, ac nid rhyngu ein bodd ein hunain.

2. Boddhaed pob un ohonom ei gymydog yn yr hyn sydd dda iddo er adeiladaeth.

3. Canys Crist nis boddhaodd ef ei hun; eithr, megis y mae yn ysgrifenedig, Gwaradwyddiadau y rhai a'th waradwyddent di, a syrthiasant arnaf fi.

4. Canys pa bethau bynnag a ysgrifennwyd o'r blaen, er addysg i ni yr ysgrifennwyd hwynt; fel trwy amynedd a diddanwch yr ysgrythurau, y gallem gael gobaith.

5. A Duw yr amynedd a'r diddanwch a roddo i chwi synied yr un peth tuag at eich gilydd yn ôl Crist Iesu:

6. Fel y galloch yn unfryd, o un genau, ogoneddu Duw, a Thad ein Harglwydd Iesu Grist.

7. Oherwydd paham derbyniwch eich gilydd, megis ag y derbyniodd Crist ninnau i ogoniant Duw.

8. Ac yr wyf yn dywedyd, wneuthur Iesu Grist yn weinidog i'r enwaediad, er mwyn gwirionedd Duw, er mwyn cadarnhau'r addewidion a wnaethpwyd i'r tadau:

9. Ac fel y byddai i'r Cenhedloedd ogoneddu Duw am ei drugaredd; fel y mae yn ysgrifenedig, Am hyn y cyffesaf i ti ymhlith y Cenhedloedd, ac y canaf i'th enw.

10. A thrachefn y mae yn dywedyd, Ymlawenhewch, Genhedloedd, gyda'i bobl ef.

11. A thrachefn, Molwch yr Arglwydd, yr holl Genhedloedd; a chlodforwch ef, yr holl bobloedd.

12. A thrachefn y mae Eseias yn dywedyd, Fe fydd gwreiddyn Jesse, a'r hwn a gyfyd i lywodraethu'r Cenhedloedd: ynddo ef y gobeithia'r Cenhedloedd.

13. A Duw'r gobaith a'ch cyflawno o bob llawenydd a thangnefedd gan gredu, fel y cynyddoch mewn gobaith trwy nerth yr Ysbryd Glân.

14. Ac yr wyf fi fy hun, fy mrodyr, yn credu amdanoch chwi, eich bod chwithau yn llawn daioni, wedi eich cyflawni o bob gwybodaeth, ac yn abl i rybuddio eich gilydd hefyd.

Darllenwch bennod gyflawn Rhufeiniaid 15