Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 26:46-59 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

46. Codwch, awn: wele, nesaodd yr hwn sydd yn fy mradychu.

47. Ac efe eto yn llefaru, wele, Jwdas, un o'r deuddeg, a ddaeth, a chydag ef dyrfa fawr â chleddyfau a ffyn, oddi wrth yr archoffeiriaid a henuriaid y bobl.

48. A'r hwn a'i bradychodd ef a roesai arwydd iddynt, gan ddywedyd, Pa un bynnag a gusanwyf, hwnnw yw efe: deliwch ef.

49. Ac yn ebrwydd y daeth at yr Iesu, ac a ddywedodd, Henffych well, Athro; ac a'i cusanodd ef.

50. A'r Iesu a ddywedodd wrtho. Y cyfaill, i ba beth y daethost? Yna y daethant, ac y rhoesant ddwylo ar yr Iesu, ac a'i daliasant ef.

51. Ac wele, un o'r rhai oedd gyda'r Iesu, a estynnodd ei law, ac a dynnodd ei gleddyf, ac a drawodd was yr archoffeiriad, ac a dorrodd ei glust ef.

52. Yna y dywedodd yr Iesu wrtho, Dychwel dy gleddyf i'w le: canys pawb a'r a gymerant gleddyf, a ddifethir â chleddyf.

53. A ydwyt ti yn tybied nas gallaf yr awr hon ddeisyf ar fy Nhad, ac efe a rydd yn y fan i mi fwy na deuddeg lleng o angylion?

54. Pa fodd ynteu y cyflawnid yr ysgrythurau, mai felly y gorfydd bod?

55. Yn yr awr honno y dywedodd yr Iesu wrth y torfeydd, Ai megis at leidr y daethoch chwi allan, â chleddyfau a ffyn i'm dal i? yr oeddwn i beunydd gyda chwi yn eistedd yn dysgu yn y deml, ac ni'm daliasoch.

56. A hyn oll a wnaethpwyd, fel y cyflawnid ysgrythurau'r proffwydi. Yna yr holl ddisgyblion a'i gadawsant ef, ac a ffoesant.

57. A'r rhai a ddaliasent yr Iesu, a'i dygasant ef ymaith at Caiaffas yr archoffeiriad, lle yr oedd yr ysgrifenyddion a'r henuriaid wedi ymgasglu ynghyd.

58. A Phedr a'i canlynodd ef o hirbell, hyd yn llys yr archoffeiriad; ac a aeth i mewn, ac a eisteddodd gyda'r gweision, i weled y diwedd.

59. A'r archoffeiriaid a'r henuriaid, a'r holl gyngor, a geisiasant gau dystiolaeth yn erbyn yr Iesu, fel y rhoddent ef i farwolaeth;

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 26