42. Efe a aeth drachefn yr ail waith, ac a weddïodd, gan ddywedyd, Fy Nhad, onis gall y cwpan hwn fyned heibio oddi wrthyf, na byddo i mi yfed ohono, gwneler dy ewyllys di.
43. Ac efe a ddaeth, ac a'u cafodd hwy yn cysgu drachefn: canys yr oedd eu llygaid hwy wedi trymhau.
44. Ac efe a'u gadawodd hwynt, ac a aeth ymaith drachefn, ac a weddïodd y drydedd waith, gan ddywedyd yr un geiriau.
45. Yna y daeth efe at ei ddisgyblion, ac a ddywedodd wrthynt, Cysgwch bellach, a gorffwyswch: wele, y mae'r awr wedi nesáu, a Mab y dyn a draddodir i ddwylo pechaduriaid.
46. Codwch, awn: wele, nesaodd yr hwn sydd yn fy mradychu.
47. Ac efe eto yn llefaru, wele, Jwdas, un o'r deuddeg, a ddaeth, a chydag ef dyrfa fawr â chleddyfau a ffyn, oddi wrth yr archoffeiriaid a henuriaid y bobl.
48. A'r hwn a'i bradychodd ef a roesai arwydd iddynt, gan ddywedyd, Pa un bynnag a gusanwyf, hwnnw yw efe: deliwch ef.
49. Ac yn ebrwydd y daeth at yr Iesu, ac a ddywedodd, Henffych well, Athro; ac a'i cusanodd ef.
50. A'r Iesu a ddywedodd wrtho. Y cyfaill, i ba beth y daethost? Yna y daethant, ac y rhoesant ddwylo ar yr Iesu, ac a'i daliasant ef.
51. Ac wele, un o'r rhai oedd gyda'r Iesu, a estynnodd ei law, ac a dynnodd ei gleddyf, ac a drawodd was yr archoffeiriad, ac a dorrodd ei glust ef.
52. Yna y dywedodd yr Iesu wrtho, Dychwel dy gleddyf i'w le: canys pawb a'r a gymerant gleddyf, a ddifethir â chleddyf.