32. Eithr wedi fy atgyfodi, mi a af o'ch blaen chwi i Galilea.
33. A Phedr a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Pe rhwystrid pawb o'th blegid di, eto ni'm rhwystrir i byth.
34. Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Yn wir yr wyf yn dywedyd i ti, mai'r nos hon, cyn canu o'r ceiliog, y'm gwedi deirgwaith.
35. Pedr a ddywedodd wrtho, Pe gorfyddai imi farw gyda thi, ni'th wadaf ddim. Yr un modd hefyd y dywedodd yr holl ddisgyblion.
36. Yna y daeth yr Iesu gyda hwynt i fan a elwid Gethsemane, ac a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Eisteddwch yma, tra elwyf a gweddïo acw.
37. Ac efe a gymerth Pedr, a dau fab Sebedeus, ac a ddechreuodd dristáu ac ymofidio.
38. Yna efe a ddywedodd wrthynt, Trist iawn yw fy enaid hyd angau: arhoswch yma, a gwyliwch gyda mi.
39. Ac wedi iddo fyned ychydig ymlaen, efe a syrthiodd ar ei wyneb, gan weddïo, a dywedyd, Fy Nhad, os yw bosibl, aed y cwpan hwn heibio oddi wrthyf: eto nid fel yr ydwyf fi yn ewyllysio, ond fel yr ydwyt ti.
40. Ac efe a ddaeth at y disgyblion, ac a'u cafodd hwy yn cysgu; ac a ddywedodd wrth Pedr, Felly; oni allech chwi wylied un awr gyda mi?
41. Gwyliwch a gweddïwch, fel nad eloch i brofedigaeth. Yr ysbryd yn ddiau sydd yn barod, eithr y cnawd sydd wan.
42. Efe a aeth drachefn yr ail waith, ac a weddïodd, gan ddywedyd, Fy Nhad, onis gall y cwpan hwn fyned heibio oddi wrthyf, na byddo i mi yfed ohono, gwneler dy ewyllys di.