21. Ac fel yr oeddynt yn bwyta, efe a ddywedodd, Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, mai un ohonoch chwi a'm bradycha i.
22. A hwythau yn drist iawn, a ddechreuasant ddywedyd wrtho, bob un ohonynt, Ai myfi yw, Arglwydd?
23. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Yr hwn a wlych ei law gyda mi yn y ddysgl, hwnnw a'm bradycha i.
24. Mab y dyn yn ddiau sydd yn myned, fel y mae yn ysgrifenedig amdano: eithr gwae'r dyn hwnnw trwy'r hwn y bradychir Mab y dyn! da fuasai i'r dyn hwnnw pe nas ganesid ef.
25. A Jwdas, yr hwn a'i bradychodd ef, a atebodd ac a ddywedodd, Ai myfi yw efe, Athro? Yntau a ddywedodd wrtho, Ti a ddywedaist.
26. Ac fel yr oeddynt yn bwyta, yr Iesu a gymerth y bara, ac wedi iddo fendithio, efe a'i torrodd, ac a'i rhoddodd i'r disgyblion, ac a ddywedodd, Cymerwch, bwytewch: hwn yw fy nghorff.
27. Ac wedi iddo gymryd y cwpan, a diolch, efe a'i rhoddes iddynt, gan ddywedyd, Yfwch bawb o hwn:
28. Canys hwn yw fy ngwaed o'r testament newydd, yr hwn a dywelltir dros lawer, er maddeuant pechodau.
29. Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi, nad yfaf o hyn allan o ffrwyth hwn y winwydden, hyd y dydd hwnnw pan yfwyf ef gyda chwi yn newydd yn nheyrnas fy Nhad.
30. Ac wedi iddynt ganu hymn, hwy a aethant allan i fynydd yr Olewydd.
31. Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt, Chwychwi oll a rwystrir heno o'm plegid i: canys ysgrifenedig yw, Trawaf y bugail, a defaid y praidd a wasgerir.
32. Eithr wedi fy atgyfodi, mi a af o'ch blaen chwi i Galilea.
33. A Phedr a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Pe rhwystrid pawb o'th blegid di, eto ni'm rhwystrir i byth.
34. Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Yn wir yr wyf yn dywedyd i ti, mai'r nos hon, cyn canu o'r ceiliog, y'm gwedi deirgwaith.