11. Oblegid y mae gennych y tlodion bob amser gyda chwi; a mi nid ydych yn ei gael bob amser.
12. Canys hi yn tywallt yr ennaint hwn ar fy nghorff, a wnaeth hyn i'm claddu i.
13. Yn wir meddaf i chwi, Pa le bynnag y pregether yr efengyl hon yn yr holl fyd, mynegir yr hyn a wnaeth hi hefyd, er coffa amdani hi.
14. Yna yr aeth un o'r deuddeg, yr hwn a elwid Jwdas Iscariot, at yr archoffeiriaid,
15. Ac a ddywedodd wrthynt, Pa beth a roddwch i mi, a mi a'i traddodaf ef i chwi? A hwy a osodasant iddo ddeg ar hugain o arian.
16. Ac o hynny allan y ceisiodd efe amser cyfaddas i'w fradychu ef.
17. Ac ar y dydd cyntaf o ŵyl y bara croyw, y disgyblion a ddaethant at yr Iesu, gan ddywedyd wrtho, Pa le y mynni i ni baratoi i ti fwyta'r pasg?
18. Ac yntau a ddywedodd, Ewch i'r ddinas at y cyfryw un, a dywedwch wrtho, Y mae'r Athro yn dywedyd, Fy amser sydd agos: gyda thi y cynhaliaf y pasg, mi a'm disgyblion.
19. A'r disgyblion a wnaethant y modd y gorchmynasai'r Iesu iddynt, ac a baratoesant y pasg.
20. Ac wedi ei myned hi yn hwyr, efe a eisteddodd gyda'r deuddeg.
21. Ac fel yr oeddynt yn bwyta, efe a ddywedodd, Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, mai un ohonoch chwi a'm bradycha i.
22. A hwythau yn drist iawn, a ddechreuasant ddywedyd wrtho, bob un ohonynt, Ai myfi yw, Arglwydd?
23. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Yr hwn a wlych ei law gyda mi yn y ddysgl, hwnnw a'm bradycha i.
24. Mab y dyn yn ddiau sydd yn myned, fel y mae yn ysgrifenedig amdano: eithr gwae'r dyn hwnnw trwy'r hwn y bradychir Mab y dyn! da fuasai i'r dyn hwnnw pe nas ganesid ef.
25. A Jwdas, yr hwn a'i bradychodd ef, a atebodd ac a ddywedodd, Ai myfi yw efe, Athro? Yntau a ddywedodd wrtho, Ti a ddywedaist.
26. Ac fel yr oeddynt yn bwyta, yr Iesu a gymerth y bara, ac wedi iddo fendithio, efe a'i torrodd, ac a'i rhoddodd i'r disgyblion, ac a ddywedodd, Cymerwch, bwytewch: hwn yw fy nghorff.
27. Ac wedi iddo gymryd y cwpan, a diolch, efe a'i rhoddes iddynt, gan ddywedyd, Yfwch bawb o hwn:
28. Canys hwn yw fy ngwaed o'r testament newydd, yr hwn a dywelltir dros lawer, er maddeuant pechodau.
29. Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi, nad yfaf o hyn allan o ffrwyth hwn y winwydden, hyd y dydd hwnnw pan yfwyf ef gyda chwi yn newydd yn nheyrnas fy Nhad.